Rhybuddion i Forwyr
Gwybodaeth pwysig a rhybuddion i bob morwr sy’n defnyddio’r harbwr . . . gwiriwch y dudalen hon yn rheolaidd! Mae ein tîm rheoli’r harbwr bob amser wrth law i gynghori; ffoniwch 01834 812 094
Tonfeddi Radio VHF
Harbwr Feistr Saundersfoot - Tonfedd VHF 11/8/16
Harbwr Saundersfoot - Tonfedd VHF 11/8
Canllaw pwysig
wedi’i gyhoeddi gan Reolwyr yr Harbwr. . .
Mae’r wybodaeth yma’n hysbysu pob deilydd angorfa, cychod sy’n ymweld, defnyddwyr llithrfa a gweithredwyr masnachol o’r peryglon posib neu weithgarwch a allai amharu ar symudiadau cychod neu effeithio ar ddiogelwch yn nyfroedd yr harbwr a’r ardal union oddi amgylch.
Dangosir y rhybuddion hyn ar Fwrdd Hysbysebu Swyddfa’r Harbwr.
Rhybudd i Ddefnyddwyr Harbwr ynghylch Marcwyr Mordwyo Newydd
Rhybudd i Ddefnyddwyr Harbwr ynghylch Marcwyr Sianeli
Mordwyo mewn gwelededd wedi’i gyfyngu
Wrth fordwyo mewn gwelededd wedi’i gyfyngu, cofiwch:
Byddwch yn wyliadwrus trwy edrych, gwrando a phob dull arall posib.
Cadw i wrando’n barhaus ar Donfedd Waith 11 yr Harbwr.
Mae’n bosib na welir badau bychain gan radar oherwydd eu gwneuthuriad, maint a’r amgylchiadau tywydd ar y pryd. Yn ychwanegol ni welir badau bychain pan fyddan nhw gerllaw llongau masnachol oherwydd uchder sganer radar y llong.
Diogelwch
Mae Harbwr Saundersfoot yn gweithio’n agos gyda mudiadau morol fel:
- Achubwyr Traeth RNLI
- Asiantaeth Arforol a Gwylwyr y Glannau (MCA)
Mae Saundersfoot yn nodedig am ei ddyfroedd ymdrochi diogel a gwneir pob ymdrech i hwyluso yr holl weithgareddau chwaraeon dŵr amrywiol eraill mewn modd diogel a chytun.
Gwregysau Achub
Gosodir gwregysau achub mewn lleoliadau amrywiol o amgylch yr harbwr; cysylltwch â swyddfa’r harbwr pe gwelwch unedau tai wedi’u difrodi neu heb wregys diogelwch.
Adrodd am Ddifrod neu Ddigwyddiadau
Dylai digwyddiadau yn ymwneud â difrod neu anaf yn yr harbwr gael eu hysbysu yn Swyddfa’r Harbwr gynted â phosib. Mae’n bosib y gofynnir i chi gwblhau ffurflen damwain. Mae Ffurflenni Adrodd Damwain ar gael yn Swyddfa’r Harbwr.
Cysylltiadau Defnyddiol
- Adroddiad tywydd a rhagolygon – Adroddiad tywydd a rhagolygon pum niwrnod ar gyfer Saundersfoot
- Tablau Llanw Saundersfoot – Amserlen Llanw Harbwr Saundersfoot.
Byddwch yn ddiogel...
Latest Information for Mariners
Gennych chi gwestiwn?
Bydd ein tîm cyfeillgar yn Harbwr Saundersfoot yn cysylltu â chi gynted â phosib i ddelio ag unrhyw ymholiadau o'ch eiddo am y datblygiad newydd neu gyfleusterau'r harbwr.