Datblygiadau Harbwr
Gyda chymorth cynllun £10 miliwn Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot i drawsnewid ac ailddatblygu harbwr Saundersfoot, cwblhawyd un o brif ddatblygiadau’r prosiect nôl ym mis Ionawr 2015. Ymwelodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, â’r pentref a chyhoeddi bod prosiect i ailddatblygu’r cyfleusterau morol wedi’i glustnodi. Dywedodd “Bydd y cynllun yn sicrhau y caiff yr harbwr, a adeiladwyd 185 mlynedd nôl, ei drawsnewid i wella mynediad a hefyd i sicrhau ei ddichonoldeb cyfnod hir”.
Cwblhawyd y rhan fwyaf o’r cam cyntaf yn 2015 gan gynnwys pontynau ac angorfeydd ymwelwyr, llithrfa allanol a racio cychod sych. Mae hyn eisoes wedi bod o fudd i ddefnyddwyr harbwr hamdden trwy ddelio â phroblemau llanw trwy godi llithrfa newydd sydd nawr yn caniatáu lansio gwaeth beth yw cyflwr y llanw. Mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i weithrediadau’r harbwr ac yn cefnogi bwriad Visit Wales i gynyddu’r defnydd o’n dyfroedd arfordirol ar gyfer hamdden.
Harbour Developments
Phase 1
Development
Public Consultation Results
Phase 2
Development
Ocean Square
Planning Application
Gennych chi gwestiwn?
Bydd ein tîm cyfeillgar yn Harbwr Saundersfoot yn cysylltu â chi gynted â phosib i ddelio ag unrhyw ymholiadau o'ch eiddo am y datblygiad newydd neu gyfleusterau'r harbwr.